Angela: Diwrnod ym Mywyd Gweithiwr Achos

Y bore yma, rwy’n argraffu bathodyn lifrai’r Magnelwyr Brenhinol, copi o’r wyddor ffonetig a symbolau cod Morse. Byddaf yn ymweld â chyn-filwr yn ddiweddarach yn y prynhawn, a gallai’r eitemau hyn fod o ddiddordeb iddo.

Gweithiwr achos dementia gyda DIAL wyf fi, yn cefnogi pobl sy’n byw gyda Dementia i gadw eu hannibyniaeth a chynnal gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt wrth iddynt barhau i fyw gartref. Ynghyd â hyn, rwyf hefyd yn cyd-hwyluso gwaith grŵp mewn cartrefi preswyl. Fel arfer, mae fy niwrnod yn dechrau gyda gwaith ymchwil am wybodaeth ar gyfer buddiolwyr DIAL, fel gwybodaeth sy’n cysylltu â’u diddordebau, eu gorffennol, neu weithgareddau y gallem eu gwneud y diwrnod hwnnw.

Mae’r ardal rydw i’n gweithio ynddi yn cynnwys Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Arddangosfa Tecstilau a Chaffi Cofio Penarth 

Rwy’n teithio o un pen o’r ddinas i’r llall ar gyfer fy ymweliad cyntaf heddiw. Byddaf yn gweld buddiolwr sydd â dementia cynnar, math sydd hefyd yn dod ag, ar adegau, sgil-effeithiau corfforol difrifol a all effeithio ar symudedd a chyfathrebu. Ein bwriad yw ymweld ag arddangosfa tecstilau celf ar y promenâd ym Mhenarth, felly mi fyddaf yn gofyn a yw’n dymuno mynd i ymweld â’r arddangosfa o hyd a chynnig dewisiadau eraill iddi hefyd.

Rwy’n hyrwyddo annibyniaeth, gan annog diogelwch ac annog yr unigolyn ddefnyddio’r allwedd drws ffrynt cyn gadael y tŷ.

Mae gennym gystadleuaeth reolaidd yn y car, lle rydyn ni’n chwarae dyfalu’r cyfansoddwr cerddoriaeth glasurol; y buddiolwr sy’n ateb yn gywir bob tro, ac mae’n enwi cyfansoddwyr na chlywais i erioed amdanynt! Mae hyn yn gorffen gyda chwerthin mawr wrth i mi newid y sianel i gerddoriaeth gyfoes a smalio fy mod yn adnabod canwr/ysgrifennwr y gân wrth wneud enwau ffug dwl i fyny.

Mae’r buddiolwr yn dweud mor braf y mae’n teimlo i fod allan yn yr awyr iach, rydym yn mynd am dro hamddenol i’r promenâd i weld yr arddangosfa, gan orffen gyda choffi a theisen. 

“Yn ystod ein hapwyntiad, mae ein buddiolwr yn falch iawn o gwrdd â phobl mae’n eu hadnabod ac aros am sgwrs. Dywedodd wrthyf yn nes ymlaen mor “normal” mae hyn yn gwneud iddi deimlo, cael mynd allan o gwmpas y fro, cwrdd ag ambell i gydnabod, yn union fel y mae pobl eraill yn ei wneud.”

Rydym yn cael brechdan sydyn i ginio cyn cwrdd â buddiolwr arall i fynychu caffi cofio lle mae’r ddau fuddiolwr yn dweud eu bod yn gallu ymlacio a theimlo bod croeso iddynt. Mae posau geiriau a gemau bwrdd yno, felly rydym yn chwarae dominos ac yn sgwrsio gydag eraill yn y grŵp. Mae’r ddwy yn gerddorol ac maen nhw’n ymuno â’r band mewn dim, yn canu caneuon ac yn dawnsio gyda’r gweddill. Mae yma deimlad anhygoel, llon a hwyliog; mae’n anodd peidio ymuno â nhw, er eu bod yn chwerthin am fy mhen pan fydda i’n dawnsio.

Gyda llond ein boliau o fwyd a diod, mae’r digwyddiad yn dirwyn i ben gyda gêm o bingo a chroesi bysedd am gael gweld ein gilydd eto’r wythnos nesaf. Mae’r siwrne adref yn y car yn cael ei threulio’n hel atgofion am ein “diwrnod hyfryd allan”. Rydym hefyd yn cael trafodaeth am ddementia, ac yn cydnabod eu bod yn ddryslyd ar adegau, bod sgyrsiau’n newid ar hap, neu eu bod yn teimlo’n bryderus, fodd bynnag “mae fy ymennydd dal gen i, fi ydw i o hyd.”

Llyn Parc y Rhath a Hel Atgofion

Fy ymweliad olaf heddiw yw at gyn-filwr o’r Ail Ryfel Byd, ac mae Alzheimer’s arno. Mae’n byw gyda’i bartner. Wrth i mi gyrraedd heddiw, mae llawer o chwerthin a jôcs am fod y cymdogion yn gwneud sylwadau ei fod yn aml yn cael ei weld allan gyda “menyw arall”. 

Ar y ffordd i’r car, dyma ei gymydog yn galw, “mynd i rywle neis?” a dyma’r buddiolwr yn ateb gyda jôc, “Rydyn ni’n mynd lawr i’r dafarn!”. 

Dewisodd ymweld â Llyn Parc y Rhath, lle caiff wylio’r adar a gwneud ffỳs o’r holl gŵn sy’n mynd heibio. Mae’n dweud wrthyf ei fod wedi gwasanaethu fel prentis trydanwr yng Nghaerdydd ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed. Roedd yn 18 oed pan gafodd ei alw i wasanaethu yn y fyddin ac yn ystod ei hyfforddiant roedd wedi’i glustnodi ar gyfer gwaith cyfathrebu, gan hyfforddi fel gweithredwr radio i’r Magnelwyr Brenhinol. Ymddengys ei fod wrth ei fodd yn gweld llun o’i hen fathodyn catrawd ac roedd yn anhygoel gweld pa mor gyflym yr oedd yn cofio cod Morse a’r hen wyddor ffonetig. Roedd yntau wedi dod ag albwm ffotograffau o’i amser yn yr India, yr Aifft a Phalesteina gydag ef, ac roedd yn cofio llawer o straeon a ffrindiau yr oedd wedi’u gwneud yno.

Wrth ddychwelyd adref mae angen cefnogaeth arno i adael y car, sadio ei hun a mynd i mewn i’r tŷ, lle mae’n parhau’r sgwrs am ei gyfnod yn fyddin, gan ddangos y deunydd wedi’i argraffu i’w bartner a sôn am god Morse. Dywed ei bartner ei fod yn mwynhau’r amser allan ac yn rhannu’r hanes gyda hi ar ôl dod adref. Dywedodd fod mynd allan o’r tŷ yn helpu gyda’i symudedd ac yn ei helpu i gadw at ei ddiddordebau a’i hobïau.

Ar ddiwedd y dydd byddaf fel arfer yn parcio’r car, anfon neges testun i fy rheolwr i ddweud bod popeth yn iawn, ac yn gwneud rhai nodiadau cyn gyrru adref, gan feddwl am fy niwrnod. Rydw i wedi blino, ond rwy’n teimlo’n freintiedig, cafodd y buddiolwyr hyn y cyfle i gael eu cefnogi i integreiddio i’w cymuned ac, yn eu geiriau nhw, “teimlo’n normal.”