
Adnoddau Allanol
Rydym wedi llunio rhestr o elusennau a mentrau i helpu i gefnogi unigolion sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr. Gallwch edrych ar wefannau’r mudiadau am fanylion pellach am yr hyn maen nhw’n ei gynnig.

Platfform
Mae Platfform yn elusen iechyd meddwl a lles arloesol sy’n ymroddedig i gefnogi pobl gyda’u hannibyniaeth, adferiad, iechyd a lles trwy amrywiaeth eang o wasanaethau.

Dementia Action Plan
Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru yn cyflwyno strategaeth i Gymru fod yn genedl sy’n deall dementia, sy’n cydnabod hawliau pobl sy’n byw gyda dementia i deimlo’n werthfawr, a byw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau.

Hogeweyk - Dementia Village
Pentref gofal arobryn yn yr Iseldiroedd yw Hogeweyk, a sefydlwyd i ategu ffyrdd o fyw adnabyddadwy yn y gymdeithas, a thynnu preswylwyr ynghyd dros ddiddordebau a chefndiroedd cyffredin. Mae’r pentref hefyd wedi’i deilwra i helpu pobl sy’n byw gyda dementia i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Dementia Friendly Swimming
Cynhelir sesiynau nofio sy’n ystyriol o ddementia yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, ac maent wedi’u dylunio i wneud y profiad o fynd i nofio yn well i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, trwy wella’r cyfleusterau a sicrhau bod staff ar gael i roi cymorth i nofwyr.

Dementia Friends
Mae rhaglen ‘Ffrindiau Dementia’ y Gymdeithas Alzheimer’s yn fenter a sefydlwyd i newid canfyddiadau pobl am ddementia. Ei nod yw trawsnewid y ffordd y mae’r genedl yn meddwl, yn gweithredu ac yn siarad am y cyflwr.

ITV Cymru Wales Archives
Mae archif ITV Cymru Wales wedi’i ddigideiddio gan arbenigwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel rhan o brosiect mawr i’w gadw ar gyfer y genedl am ddegawdau i ddod. Gallai gwylio’r clasuron hyn ar sgrin godi llawer o atgofion ac ysgogi sgyrsiau am fywyd yng Nghymru.

People's Collection Wales Memory Archive
Mae Casgliad y Werin Cymru yn cadw ac yn dathlu hanes cyfoethog Cymru trwy gasglu straeon gan y bobl sy'n gwybod yr hanes – chi! Mae eu harchif atgofion yn llawn adnoddau ar gyfer gwaith hel atgofion dementia.

Age UK Caring for someone with dementia
Mae Age UK wedi creu canllaw ymarferol i helpu pobl sy’n gofalu am rywun sydd wedi cael diagnosis o ddementia, neu sy’n dangos symptomau.

Cardiff Pottery Workshops
Mudiad dielw yw Cardiff Pottery Workshops, wedi’i ddylunio i rannu’r grefft hon â’r gymuned leol. Maent yn cynnig dosbarthiadau crochenwaith cyfeillgar, hamddenol a chroesawgar i bob oedran a gallu.

Football Memories
Football Memories oedd y prosiect hel atgofion cyntaf wedi’i seilio ar chwaraeon, wedi’i dargedu’n benodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia. Mae’r prosiect yn defnyddio lluniau a phethau cofiadwy o fyd pêl-droed i ysgogi’r cof, hybu hunanhyder ac annog ailgydio mewn cymryd rhan yn y gymuned.

Chapter
Canolfan gelfyddydau yw Chapter ac mae’n cynnig llawer o weithgareddau dan yr un to. Maent yn cynnal dangosiadau ffilmiau sy’n ystyriol o ddementia yn rheolaidd, gydag addasiadau bychain i greu amgylchedd mwy cyfeillgar.

Cardiff and Vale Action for Mental Health
Mae yn cefnogi’r sector gwirfoddol, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gael dweud eu dweud yn natblygiad gwasanaethau iechyd meddwl ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Cine-Memories
Mae’r Memo Arts Centre yn cynnig rhaglen o ddangosiadau ffilm misol yn ystod y prynhawn sydd wedi’u eu teilwra’n arbennig ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Eu nod yw gwneud sinema’n fwy hygyrch, mewn awyrgylch diogel a chroesawgar.

Memory Lane Social Club
Mae Clwb Cymdeithasu Memory Lane yn cynnig gweithgareddau sy’n ystyriol o ddementia yng Nghanolfan Gymunedol Cathays bob dydd Mawrth yn cynnwys bowlio dan do, ffilmiau, cerddoriaeth, dawns a bingo.

Age UK
Mae Age UK yn cynnig cyngor a gwybodaeth am ddeall dementia, sut i fyw’n dda a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dementia Positive
Mae Dementia Cadarnhaol yn dathlu cryfderau, creadigrwydd a dirnadaethau pobl sy’n byw gyda dementia.

Wales Dementia Helpline
Mae llinell gymorth Dementia Cymru yn cynnig cefnogaeth emosiynol i unrhyw un, o unrhyw oedran, sy’n gofalu am rywun gyda dementia, yn ogystal ag aelodau o’r teulu neu ffrindiau y mae’n effeithio arnynt.

Extreme Love: Dementia
Yn y ffilm ddogfen hon, mae Louis Theroux yn ymweld â Phoenix, Arizona i dreulio amser gyda phobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd i archwilio realiti a thrafferthion y syndrom.

Alzheimer’s Association
Mae’r mudiad iechyd gwirfoddol hwn yn canolbwyntio ar ofal, cymorth ac ymchwil Alzheimer's. Eu nod yw rhoi diwedd ar afiechyd Alzheimer's, symud ymchwil yn ei flaen, darparu gofal a chefnogaeth i bawb a effeithir arnynt, a lleihau’r risg o ddementia trwy hybu iechyd yr ymennydd.

Alzheimer’s Research UK
Dysgwch fwy am beth sy’n cyrraedd y penawdau ym maes ymchwil arloesol ar ddementia.

Ty Hapus
Prosiect gofal ysbaid unigryw ar gyfer afiechyd Alzheimer’s sy’n cynnig gofal ysbaid dyddiol i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr a’u hanwyliaid.

Dewis Cymru
Mae Dewis Cymru yn cynnig gwybodaeth a chyngor am les yng Nghymru. Maent yn rhannu gwybodaeth y tu hwnt i faterion iechyd, yn cynnwys yr ardal rydych yn byw ynddi, pa mor ddiogel a sicr rydych chi’n teimlo, a phwysigrwydd cadw cysylltiad â ffrindiau a theulu.

Carers Trust
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cynnig gwybodaeth a chyngor i bobl o unrhyw oedran sy’n darparu cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau na allai ymdopi heb y cymorth hwn.

Dementia Roadmap Wales
Gwefan yw Dementia Roadmap Wales, sy’n darparu gwybodaeth o safon am siwrne dementia. Gallwch ddisgwyl gwybodaeth leol am wasanaethau, grwpiau cymorth a llwybrau gofal, oll yn cefnogi byw’n dda gyda dementia yng Nghymru.

The BBC Reminiscence Archive
Mae’r archif BBC Reminiscence yn cynnwys dros 3000 o eitemau a ddarlledwyd gan y BBC. Ei bwrpas yw ysgogi atgofion mewn pobl gyda dementia, gan symbylu sgyrsiau gyda theulu a gofalwyr, ac mae’n cael ei ddefnyddio mewn ysbytai a chartrefi gofal yn ogystal â chartrefi unigolion.

Playlist for Life
Elusen yw Playlist for Life a sefydlwyd yn 2013 ac sy’n helpu i greu rhestr wrando bersonol sy’n archwilio stori bywyd yr unigolyn, yn casglu’r caneuon â’r cysylltiadau agosaf at eu hatgofion a’u hemosiynau.

Dementia Friendly Vale
Mae’r Fro sy’n Ystyriol o Ddementia yn ganolbwynt o wybodaeth a digwyddiadau ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, eu ffrindiau neu aelodau o’u teulu ym Mro Morgannwg.

Bangor University Signpost
Cylchgrawn ar gyfer gweithwyr proffesiynol a gofalwyr sy’n gweithio gyda phobl hŷn sy’n byw gyda dementia a phroblemau iechyd meddwl eraill yw Signpost. Dyma ffynhonnell o wybodaeth ac addysg sy’n hawdd i’w ddefnyddio, yn ddifyr ac yn aml yn emosiynol i’w ddarllen. Cyhoeddwyd Signpost gyntaf yn 1988 a chyhoeddir tri rhifyn y flwyddyn.

BBC Music Memories
Mae tystiolaeth yn dangos y gall cerddoriaeth helpu pobl gyda dementia i deimlo a byw’n well. Mae’r wefan hon yn defnyddio cerddoriaeth i helpu pobl gyda dementia ailgysylltu â’u hatgofion mwyaf pwerus.