Rhannu Straeon Bywyd y tu Hwnt i Ddementia
Prif nod prosiect DIAL yw gwella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia trwy weithgareddau fel ymarfer corff a chymdeithasu. Ystyr DIAL yw Dementia Integration and Link.
Arddangosfa wedi’i chreu’n arbennig i ddathlu’r bobl sy’n cymryd rhan yn DIAL yw Nad fi’n Angof, ac mae’n rhannu straeon, gwaith celf a safbwyntiau o’u bywydau y tu hwnt i ddementia yn ogystal â’u hatgofion, a hanes answyddogol Caerdydd.

Beth sy'n gwneud y prosiect hwn yn wahanol?
Arddangosfa
Dychmygwch weld agweddau newydd ar Gaerdydd drwy atgofion pobl eraill. Sut olwg oedd ar y ddinas, a sut oedd ei thrigolion yn treulio'u hamser yma? Ymunwch â ni yn Amgueddfa Stori Caerdydd o 5 – 7fed Gorffennaf 2019 am arddangosfa arbennig sy’n rhannu straeon pobl sy’n byw gyda dementia yng Nghaerdydd.
Mae ‘DIAL’ a ‘Nad fi’n Angof’ wedi bod yn creu darlun o atgofion a straeon trigolion Caerdydd sy’n byw gyda dementia, i helpu i rannu eu hanes. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys ffilm ddogfen, arddangosfa sy’n edrych yn fanylach ar atgofion a straeon, amrywiaeth o bortreadau ffotograffig, ac amrywiaeth o brosiectau crefft a ddyluniwyd gan gyfranogwyr i gynrychioli eu hatgofion o Gaerdydd.
